Cyngor Cymuned
Community Council
Llandyrnog
Y wefan ar gyfer digwyddiadau a gwybodaeth ar gyfer Llandyrnog a’r cylch, Sir Ddinbych.
The site for events and information in and around Llandyrnog, Denbighshire.
© 2025 Cyngor Cymuned Llandyrnog Website designed and maintained by H G Web Designs
Am Llandyrnog
Pentref mawr yn Sir Ddinbych, Cymru, yw Llandyrnog, yn nyffryn Afon Clwyd, tua 3 milltir (4.8 km) o Ddinbych a 5 milltir
(8.0 km) o Rhuthun.
Mae gan Llandyrnog eglwys leol, St. Tyrnog's, a capel bach Cymraeg. Mae yna ddau fwyty tafarn hefyd, sef The Kinmel Arms a The White Horse
a thafarn, y Golden Lion. Yng nghanol y pentref mae siop cigyddion a siop bentref a Swyddfa'r Post. Mae gan Llandyrnog hefyd ysgol gynradd
fach, Ysgol Bryn Clwyd, sy'n dysgu trwy gyfrwng y Saesneg. Mae hen Ysbyty'r Gist, milltir (1.6 km) i ffwrdd yn Llangwyfan, bellach yn ganolfan
breswyl i oedolion ag anableddau dysgu.
Mae gan y pentref gysylltiadau ffordd da efo Dinbych a phrif ffordd yr A541 ym Modfari, ac mae bysiau rhif 76 a 53 yn ein gwasanaethu.
Mae yna glwb pêl-droed gweithgar iawn, Llandyrnog United, sydd ar hyn o bryd yn chwarae yn Adran 1 Cynghrair Cymru a chlwb cysylltiedig,
Llandyrnog, sy'n chwarae yng Nghynghrair Haf Dyffryn Clwyd. Y Golden Lion yw cartref Clwb Pêl-droed Unedig Llandyrnog ac mae'r ddau dîm
cynghrair gaeaf yn dod yn ôl i'r Goldie i gael bwyd a diodydd ar ôl y gêm fel mae tîm cynghrair yr haf. Y Golden Lion sy'n cynnal y rhan fwyaf o'r
gemau chwaraeon teledu / Sky. Cynhelir sawl digwyddiad elusennol yma hefyd, tafarn lleol traddodiadol.
Mae gan y pentref fynediad hawdd i’r ‘Clwydian Range’ a llwybr troed Offa’s Dyke. Yn edrych dros y pentref mae dwy gaer bryn o bwys
archeolegol sef Penycloddiau a Moel Arthur.
Mae gan Llandyrnog y sefydliad Methodistaidd hynaf ym Mro Clwyd sef Capel Dyffryn.